Mae Barod Amdani wedi cau

Mae Barod Amdani, safon y diwydiant sydd wedi cefnogi busnesau drwy gydol y pandemig, bellach wedi cau. Mae VisitEngland, VisitScotland, Croeso Cymru a Thwristiaeth Gogledd Iwerddon wedi cytuno bod y fenter bartneriaeth allweddol hon wedi cyflawni'r hyn yr oedd yn ei gynnig i bob busnes a wnaeth gamu i'r her a'n galluogodd ni a phob busnes i ddangos y protocolau Covid-19 y maent wedi'u rhoi ar waith i gadw ymwelwyr yn ddiogel.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Anogir busnesau sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd i dynnu'r dystysgrif a thynnu'r logo o'r holl goliau marchnata, ond ni ddisgwylir iddynt wynebu costau wrth wneud hynny ac felly gallant gadw'r logo ar unrhyw ddeunydd marchnata printiedig sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar y ddealltwriaeth na fydd hyn ar waith y tu hwnt i fis Medi 2022.

Fodd bynnag, gofynnwn i'r logo gael ei dynnu oddi ar eich gwefan a'ch sianeli cyfryngau cymdeithasol ar neu cyn 30 Ebrill 2022.

Os gwnaethoch gofrestru i ddefnyddio Stamp 'Safe Travels' Cyngor Teithio a Thwristiaeth y Byd, fel y corff dyfarnu ar y cyd ar gyfer y DU – VisitEngland, VisitScotland, Croeso Cymru a Thwristiaeth Gogledd Iwerddon – rydym yn cadarnhau y gallech barhau i ddefnyddio'r stamp ar gyfer eich marchnata rhyngwladol hyd nes y bydd CTTB yn cadarnhau nad ydynt yn rhedeg y cynllun hwn mwyach. Fodd bynnag, ni dderbynnir unrhyw geisiadau newydd gennym ni ar ôl 31 Mawrth 2022 a bydd angen i unrhyw un sy'n dymuno gwneud cais am Deithio Diogel ar ôl y pwynt hwnnw wneud cais yn uniongyrchol i CTTB.

Er mwyn cael y newyddion diweddaraf am y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau diwydiant yma

 

Os yw eich busnes wedi'i leoli yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, cliciwch ar y ddolen berthnasol isod am wybodaeth sy'n berthnasol i chi

Lloegr | yr Alban | Ogledd Iwerddon | Cymru (Saesneg)